°¬²æAƬ

Cynnig i leihau'r capasiti yng Ngham Gynradd Cymuned Dysgu Abertyleri

Trosolwg

Fe sefydlodd Cyfarwyddiaeth Addysg °¬²æAƬ Gymuned Ddysgu Abertyleri ym mis Medi 2016. Mae’r gymuned ddysgu’n cynnwys tri champws cynradd sydd wedi’u lleoli ar Heol Roseheyworth, Heol y Chwe Chloch a Stryd Tyleri ynghyd ag un campws uwchradd ar Stryd Alma; sydd, gyda’i gilydd, yn ysgol pob oed. 

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol °¬²æAƬ yn adolygu capasiti ei ysgolion yn flynyddol. Gan hynny, mae’r Cyngor yn ymateb i’r lefel uchel o leoedd gwag yng nghampysau Cynradd Cymuned Ddysgu Abertyleri.

Y Cynnig

Mae’r ymgynghoriad hwn yn cynnig lleihau’r capasiti lleoedd cynradd ar y cyfan yng Nghymuned Ddysgu Abertyleri o 980 i 770 – gostyngiad o 210 o leoedd (21%) – trwy gau un campws cynradd. Yr opsiwn a ffefrir yw cau Campws Heol Roseheyworth, sydd â’r nifer isaf o ddisgyblion o oedran statudol ar y gofrestr (119) a’r lefelau uchaf o waith cynnal a chadw sydd wedi ôl-gronni oherwydd oedran a chyflwr yr adeilad. Gellir rhoi lle i’r holl ddisgyblion sy’n mynychu Campws Heol Roseheyworth ar hyn o bryd ar safleoedd y campysau cynradd a fydd yn weddill.

Bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol °¬²æAƬ yn cefnogi uwch dîm arwain Cymuned Ddysgu Abertyleri i sicrhau parhad cyfleoedd dysgu cynradd o ansawdd da ar draws yr ysgol. Mae’r Cyngor yn dal i fod yn ymrwymedig i gydweithio gyda’r ysgol i ddatblygu cynllun hirdymor sy’n cefnogi twf, datblygiad a deilliannau gwell ar sail barhaus.

Felly, bydd y cynnig hwn yn cael ei gyflawni fel a ganlyn:

  • I lleihau capasiti'r ysgol gynradd, sy'n rhan o Gymuned Ddysgu Abertyleri, o 980 i 770, i leihau capasiti corfforol Cymuned Ddysgu Abertyleri drwy gau Campws Heol Roseheyworth a symud disgyblion i'r campysau sy'n weddill (Campws Six Bells a Champws Stryd Tyleri) gyda gweithredu'n raddol yn dechrau o fis Medi 2026 a chyda gweithredu'n llawn erbyn mis Medi 2027.

Byddai’r cynnig yn ategu Gweledigaeth °¬²æAƬ ar gyfer Addysg fel a ganlyn:

‘Grymuso ein cymunedau i fod yn ddysgwyr gydol oes uchelgeisiol, egwyddorol a gwybodus sy’n byw bywydau llawn ac iach.’

Ymgynghoriad

Bydd yr ymgynghoriad hwn yn rhoi cyfle i ymgyngoreion ddysgu mwy am gynnig y cyngor a’i ddeall a mynegi eu barn arno, a fydd yn llywio’r penderfyniad terfynol ar sut i symud ymlaen â’r cynnig.

Bydd y cyfnod ymgynghori ar gyfer y cynnig hwn yn dechrau Ddydd Llun 2 Mawrth 2026 gan ddod i ben Ddydd Mawrth 14 Ebrill 2026. 

Gall ymgyngoreion gyflwyno eu sylwadau ar y cynnig, ond dylid nodi na chaiff ymatebion a dderbynnir yn ystod y cyfnod hwn eu nodi fel gwrthwynebiadau i’r cynnig. Dim ond ar ôl cyhoeddi’r hysbysiad y gellir cofrestru gwrthwynebiadau.

Mae’r Tîm Adnoddau a Chynllunio Addysg wedi cynllunio cyfarfodydd rhithwir gyda’r undebau llafur a sesiwn galw heibio isod ar gyfer pob corff llywodraethu’r ysgolion yr effeithir arnynt, staff, rhieni disgyblion a’r gymuned ehangach drwy gydol y cyfnod ymgynghori.

  • CDdA – Campws Uwchradd, Stryd Alma, Abertyleri NP13 1YL Dydd Mawrth 10 Mawrth 2026 3:30pm – 4:30pm a Staff
  • CDdA – Campws Uwchradd, Stryd Alma, Abertyleri NP13 1YL Dydd Mawrth 10 Mawrth 2026 5:00pm – 6:00pm Corff Llywodraethu
  • Y Metropole, Abertyleri  NP13 1LA Dydd Mercher 11 Mawrth 2026          3:00pm – 6:30pm Rhieni a’r Gymuned Ehangach
  • Y Metropole, Abertyleri  NP13 1LA Dydd Mawrth 17 Mawrth 2026          3:00pm – 6:30pm    Rhieni a’r Gymuned Ehangach
  • Cyfarfod rhithwir ar Teams Dydd Mercher 17 Mawrth 2026    1:00pm - 2:00pm         Cynrychiolwyr Undebau Llafur     

Hoffai’r Cyngor i chi ystyried yr wybodaeth a nodir yn y llyfryn ymgynghori a rhoi eich sylwadau ar y cynigion.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu ymholiadau ar yr wybodaeth a gynhwysir yn y ddogfen, cysylltwch â ni os gwelwch yn dda naill ai drwy ddefnyddio cyfeiriad e-bost 21stcenturyschools@blaenau-gwent.gov.uk, neu drwy ein ffonio ar (01495) 355116.

Canlyniad yr Ymgynghorid a’r Camau Nesaf

Adroddiad yr ymgynghoriad

Caiff adborth o’r ymgynghoriad ei gasglu, ei ddadansoddi a’i gyflwyno mewn adroddiad all-dro ar yr ymgynghoriad i gabinet y cyngor ar 30 Ebrill 2026. Bydd yr adroddiad ar gael ar wefan y cyngor bythefnos cyn y gwneir penderfyniad i symud ymlaen neu beidio symud ymlaen i hysbysiad statudol. Gellir gwneud cais am gopi caled drwy’r cyfeiriadau e-bost a nodir uchod. Gall ymgyngoreion hefyd gofrestru eu dymuniad i gael eu hysbysu am gyhoeddiad adroddiad yr ymgynghoriad drwy’r cyfeiriad e-bost uchod.

Hysbysiad Statudol

Os caiff y cynnig hwn ei gymeradwyo yn y Cabinet; bydd y Cyngor wedyn yn cyhoeddi hysbysiad statudol. Bydd cyfnod yr hysbysiad statudol yn rhedeg am 28 diwrnod, sef o ddydd Mawrth 5 Mai 2026 – dydd Mercher 3 Mehefin 2026. Yn ystod yr amser hwn, byddwch yn gallu gwneud gwrthwynebiadau ffurfiol os byddwch yn dymuno gwneud hynny, trwy’r cyfeiriad e-bost a ddarperir yn y llyfryn ymgynghori hwn.

Wedyn bydd unrhyw faterion a godir gan bartïon â buddiant yn cael eu crynhoi mewn Adroddiad Gwrthwynebiadau ac yn cael eu cyflwyno i’r Cabinet er mwyn i benderfyniad terfynol gael ei wneud ym mis Mehefin 2026. Os bydd y cynnig symud ymlaen, bydd copi o’r Hysbysiad Statudol yn cael ei arddangos ar wefan y Cyngor a holl gampysau Cymuned Ddysgu Abertyleri. Bydd copïau caled o’r hysbysiad statudol ar gael ar gais.

Penderfyniad ar y cynnig

Bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol °¬²æAƬ yn penderfynu ynghylch y cynnig gan ystyried yr ymatebion a gafwyd i’r hysbysiad statudol. Gall hyn arwain at gymeradwyo’r cynnig, ei wrthod, neu ei gymeradwyo gydag addasiadau.

Hysbysiad o’r penderfyniad

Unwaith y gwnaed penderfyniad, anfonir copi electronig ohono at bawb sydd â diddordeb a chaiff ei gyhoeddi ar wefan Cyngor Bwrdeistref Sirol °¬²æAƬ o fewn saith diwrnod o’r penderfyniad.

Pob Ymholiad 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu ymholiadau, gallwch gysylltu â ni naill ai drwy ddefnyddio’r cyfeiriad e-bost islaw neu drwy ein ffonio ar (01495) 355116.

E-Bost: 21stcenturyschools@blaenau-gwent.gov.uk

Mae croeso i chi hefyd lenwi’r arolwg ar-lein yn defnyddio’r ddolen

Dylid dychwelyd pob ymateb i’r ymgynghoriad erbyn 5pm Dydd Mawrth 14 Ebrill 2026, fan bellaf.

Dogfennau cysylltiedig