-
Ray Gunter
Ddydd Gwener 6 Rhagfyr 2013 dadorchuddiodd Paul Murphy, AS Torfaen, blac coffa er anrhydedd Ray Gunter, y cyn AS Llafur ac Aelod Cabinet a anwyd yn Llanhiledd. Cafodd y plac ei osod yng ngorsaf reilffordd y dref i gydnabod ei amser fel Llywydd TSSA.
-
Ron Burgess
Cafodd y plac glas ei ddadorchuddio ar 12 Tachwedd 2014 gan gyn goliwr Cymru, Neville Southall a ddywedodd, ‘Mae’n anrhydedd dadorchuddio’r plac hwn heddiw Roedd Ronnie Burgess yn gawr ym mhêl-droed Cymru. Bu’n gapten ei glwb a’i wlad ac arwain Spurs i bencampwriaethau olynol’.
-
Mervyn Griffiths
Ddydd Gwener 24 Ionawr 2014 cafodd y Plac Glas i anrhydeddu Mervyn ei ddadorchuddio gan Clive Thomas, dyfarnwr arall o Gymru. Fel Mervyn, roedd Clive yn ddyfarnwr safon byd, a ymddangosodd yn rowndiau terfynol Cwpan y Byd 1974 a 1978 a nifer fawr o gemau rhyngwladol ac Ewropeaidd pwysig. Dywedodd Clive, “Mae’n anrhydedd fawr cael fy ngwahodd i ddadorchuddio’r plac hwn. Roedd gennyf lawer iawn o barch at Mervyn oherwydd ei fod yn ddyfarnwr llym iawn ac roedd gwybod ei fod ef, Cymru arall, wedi cyrraedd y brig, yn tanio fy uchelgais.
-
Michael Foot
Plac Coch yn coffáu Michael Foot, AS lleol ac Arweinydd y Blaid Lafur
-
Thora Silverthorne
Mae’r nawfed Plac Porffor i’w ddadorchuddio yng Nghymru yn dathlu cyfraniad nyrs ddewr ac amddiffynnydd ei phroffesiwn a fagwyd yn Abertyleri ac a ddaeth yn un o’r nyrsys Prydeinig cyntaf i wirfoddoli yn Rhyfel Cartref Sbaen. Cafodd plac Thora Silverthorne ei ddadorchuddio y tu allan i Amgueddfa Abertyleri, °¬˛ćAƬ, ddydd Gwener, 13 Mai 2022.