Mae'r Cyngor yn parhau i fuddsoddi yn ffyrdd y fwrdeistref, gan gynnwys cynllun gwella mawr gwerth £2.5 miliwn ar gyfer ffordd yr A4046 rhwng Aber-bîg a’r Cwm.
Bydd y gwaith ar yr A4046 rhwng Aber-bîg a’r Cwm yn darparu gwelliannau hanfodol fel gwell draenio, ailwynebu'r ffordd gyfan, a mesurau diogelwch gwell i ddiogelu'r llwybr yn y tymor hir. By
Mae cyllid ar gyfer y cynllun wedi'i ddyfarnu drwy Gronfa Drafnidiaeth Ranbarthol Llywodraeth Cymru, a disgwylir i'r gwaith ddechrau tua diwedd yr haf.
Ochr yn ochr â hyn, mae'r Cyngor yn parhau i gyflwyno rhaglen helaeth o ailwynebu ar draws °¬²æAƬ, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru a chyllid lleol. Ers mis Medi, mae bron i 50 o ffyrdd wedi cael eu hail-wynebu, gydag atgyweiriadau strwythurol ychwanegol wedi'u cwblhau ar rwystrau diogelwch a phontydd. Mae'r ffyrdd sydd wedi'u cynnwys yn y rhaglen wedi'u dewis yn dilyn archwiliadau manwl ac ymgysylltu ag aelodau ward lleol.
Rhwng Ebrill 2025 ac Ebrill 2030, mae £5.4 miliwn o gyllid cyfalaf yn cael ei fuddsoddi mewn gwaith ail-wynebu. Mae hyn yn cynnwys £2 filiwn o gyllid y Cyngor yn cael ei ddwyn ymlaen i'w gyflawni dros y ddwy flynedd nesaf.
Mae £112,000 ychwanegol wedi'i neilltuo i atgyweirio a chynnal a chadw ffyrdd ar draws y fwrdeistref yn 2025/26, gan ategu'r gyllideb refeniw presennol o £1miliwn ynghyd â hynny a ddyrannwyd ar gyfer cynnal a chadw parhaus yn flynyddol. Bydd y cyllid ychwanegol hwn yn canolbwyntio ar faterion brys a nodwyd gan arolygwyr priffyrdd.
Mae hyn yn golygu, rhwng Ebrill 2025 ac Ebrill 2030, y bydd dros £10 miliwn yn cael ei wario ar ffyrdd y fwrdeistref.
Mae tyllau yn parhau i fod yn her eang ledled y DU, gyda chyfnod hir o dywydd gwlyb diweddar yn niweidio arwynebau ffyrdd ymhellach ac yn arafu ymdrechion atgyweirio.
Dywedodd y Cynghorydd Tommy Smith, Dirprwy Arweinydd y Cyngor a’r Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdogaeth ac Amgylcheddol:
"Rydym yn gwrando ar ein cymunedau ac yn parhau i fuddsoddi yn ein ffyrdd yma ym Mlaenau Gwent, gan weithio gyda Llywodraeth Cymru. Trwy nodi a sicrhau cyllid ychwanegol, gallwn gyflymu atgyweiriadau hanfodol a chyflawni rhaglen uchelgeisiol a fydd yn diogelu llawer o'n ffyrdd am flynyddoedd i ddod.
“Mae'r A4046 rhwng Aber-bîg a Chwm yn llwybr hanfodol i'n trigolion a'n busnesau lleol, felly rydym yn croesawu'n fawr y cyllid a fydd yn ein galluogi i wneud gwelliannau hanfodol a sicrhau dyfodol hirdymor y ffordd allweddol hon. Byddwn yn gweithio'n agos gyda chymunedau lleol i ddatblygu cynigion ar gyfer y trefniadau rheoli traffig dros dro, i sicrhau bod tarfu ar lif traffig, ar hyd y prif lwybr rhydwelïol hwn, yn cael ei gadw i'r lleiafswm, gydag amseroedd a llwybrau dargyfeirio yn cael eu cyhoeddi'n dda."
