Mae Cymuned Ddysgu 3-16 Canolfan yr Afon ym Mlaenau Gwent wedi'i thynnu o fesurau arbennig yn dilyn ymweliad monitro cadarnhaol iawn gan Estyn.

Cadarnhaodd Estyn fod yr ysgol wedi gwneud digon o gynnydd yn erbyn yr holl argymhellion, gan dynnu sylw at arweinyddiaeth gryfach, ymddygiad gwell ymysg disgyblion a diwylliant mwy meithringar a chynhwysol ar draws yr ysgol.
Nododd arolygwyr fwy o sefydlogrwydd ymysg yr arweinyddiaeth, strwythur staffio sefydlog a gweledigaeth glir a rennir sy'n canolbwyntio ar ddiwallu anghenion emosiynol disgyblion. Gwnaethant hefyd arsylwi ar ymddygiad cadarnhaol cyson, gyda disgyblion yn cael eu disgrifio fel tawel, parchus ac ymgysylltiedig.
Canmolwyd gwelliannau i'r cwricwlwm a'r amgylchedd dysgu hefyd, ochr yn ochr â chyfleoedd ehangach gan gynnwys chwaraeon, ymweliadau â'r Senedd a chyfranogiad yng Ngwobr Dug Caeredin, gan helpu disgyblion i fagu hyder, gwytnwch a dyheadau ar gyfer y dyfodol.
Dywedodd y Pennaeth Kieran Dash:
"Rwy'n falch iawn o'r penderfyniad gan Estyn. Mae ein staff ymroddedig wedi gweithio'n ddiflino i gefnogi ein plant a'n pobl ifanc, ac rwy'n falch o bob un ohonyn nhw. Mae ein disgyblion gwych wedi bod yn bartneriaid go iawn yn y daith hon, gan ddangos gwell agweddau at ddysgu, hunanhyder a gwytnwch.
"Rydym yn falch o ba mor bell rydyn ni wedi dod ac yn benderfynol o barhau i symud ymlaen i fod y gymuned ddysgu orau y gallwn fod. Diolch i'r Cyngor, ein llywodraethwyr ysgol, rhieni/gwarcheidwaid a phartneriaid cwricwlwm am eu cefnogaeth ddiwyro."
Mae'r adroddiad yn amlinellu cefnogaeth gref i'r ysgol gan lywodraethwyr, Cyngor °¬˛ćAƬ ac asiantaethau partner.
Dywedodd y Cynghorydd Sue Edmunds, Aelod Cabinet y Cyngor ar gyfer Plant, Pobl Ifanc a Theuluoedd:
"Mae hwn yn ganlyniad hynod gadarnhaol ac yn dyst i waith caled ac ymrwymiad staff, arweinwyr a phartneriaid yng Nghymuned Ddysgu Canolfan yr Afon. Rydym wedi gweld gwelliannau gwirioneddol a pharhaus mewn arweinyddiaeth, ymddygiad, lles ac ansawdd dysgu. Yn bwysicaf oll, mae'n dangos bod disgyblion bellach yn elwa o amgylchedd tawelach, mwy meithringar lle maen nhw’n teimlo'n ddiogel, wedi’u gwerthfawrogi ac yn cael eu cefnogi i lwyddo. Mae hyn yn cefnogi'n llwyr ein blaenoriaethau i roi'r dechrau gorau mewn bywyd i bob plentyn ac i gyflawni dysgu gydol oes, lles a gwytnwch i'n cymunedau."
Dywedodd Cadeirydd y Llywodraethwyr, Jen Morgan:
"Rwy'n falch iawn o gorff llywodraethu, uwch arweinyddiaeth a staff yr ysgol am eu gwaith caled a'u hymrwymiad i wneud y gwelliannau hyn ac am eu hymroddiad i fywydau ein plant a'n pobl ifanc."
Mae Cymuned Ddysgu 3 – 16 Canolfan yr Afon yn cynnig addysg a chefnogaeth i blant a phobl ifanc sydd ag anghenion cymdeithasol, emosiynol ac iechyd meddwl (SEMH) neu nad ydynt yn gallu mynychu'r ysgol brif ffrwd am gyfnod o amser.
I ddarllen yr Adroddiad Monitro yn llawn ewch i: