Daeth Cynulliad Dinasyddion, sy'n cynnwys trigolion lleol, ynghyd y penwythnos hwn i helpu i lunio egwyddorion Bargen newydd °¬²æAƬ.
Mae'r Fargen yn ffordd newydd o weithio rhwng Cyngor °¬²æAƬ, trigolion, cymunedau a sefydliadau partner, gyda'r nod o adeiladu bwrdeistref decach a mwy gwydn, gwella iechyd a lles a lleihau anghydraddoldebau.

Bydd y Cynulliad Dinasyddion yn pennu'r egwyddorion y tu ôl i'r Fargen a fydd yn arwain y berthynas a'r ffordd newydd hon o weithio i gyflawni'r uchelgeisiau a rennir ar gyfer y fwrdeistref. Dyma'r gyntaf o dair sesiwn a gynhelir dros fis gyda thrigolion a ddewiswyd ar hap rhwng 16 ac 83 oed, gyda gwahanol safbwyntiau a phrofiadau.
Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i rymuso cymunedau, adeiladu ar gryfderau lleol, a sicrhau bod penderfyniadau'n cael eu llunio gan y bobl sy'n byw ac yn gweithio yn y fwrdeistref.
Mae'r cyfranogwyr yn trafod themâu allweddol sy'n sail i'r Fargen, gan gynnwys:
•&²Ô²ú²õ±è;&²Ô²ú²õ±è;&²Ô²ú²õ±è;&²Ô²ú²õ±è;&²Ô²ú²õ±è;&²Ô²ú²õ±è;&²Ô²ú²õ±è; Balchder yn lle maen nhw'n byw
•&²Ô²ú²õ±è;&²Ô²ú²õ±è;&²Ô²ú²õ±è;&²Ô²ú²õ±è;&²Ô²ú²õ±è;&²Ô²ú²õ±è;&²Ô²ú²õ±è; Cyfrifoldeb cymdeithasol
•&²Ô²ú²õ±è;&²Ô²ú²õ±è;&²Ô²ú²õ±è;&²Ô²ú²õ±è;&²Ô²ú²õ±è;&²Ô²ú²õ±è;&²Ô²ú²õ±è; Cysylltu cymunedau
•&²Ô²ú²õ±è;&²Ô²ú²õ±è;&²Ô²ú²õ±è;&²Ô²ú²õ±è;&²Ô²ú²õ±è;&²Ô²ú²õ±è;&²Ô²ú²õ±è; Rhannu grym
Trwy sesiynau rhyngweithiol, bydd y trigolion yn ystyried sut y gall unigolion, cymunedau a'r Cyngor weithio ar y cyd i ddiwallu anghenion y dyfodol, goresgyn rhwystrau a chreu bywydau iachach a mwy cysylltiedig. Bydd y Cynulliad hefyd yn canolbwyntio ar sut olwg sydd ar rymuso, sut y gellir mesur llwyddiant, a chamau ymarferol i alluogi cymunedau i weithredu ar y newidiadau maen nhw am eu gweld.
Mae siaradwyr allweddol yn cynnwys cynrychiolwyr y Cyngor; sefydliadau partner fel y sector iechyd a gwirfoddol, ac unigolion a grwpiau sydd eisoes yn gwneud gwaith gwych yn eu cymunedau.
Dywedodd Arweinydd Cyngor °¬²æAƬ, y Cynghorydd Steve Thomas:
“Mae’r Cynulliad Dinasyddion yn ymwneud â gwrando, dysgu, a gweithio gyda’n gilydd i lunio gweledigaeth gyffredin ar gyfer bwrdeistref fwy cryf, gwydn a theg. Mae gwaith gwych eisoes yn cael ei wneud yn ein cymunedau ym Mlaenau Gwent, lle mae pobl yn dod ynghyd i wneud gwahaniaeth cadarnhaol i ble maen nhw’n byw. Rydym wedi cael ein hysbrydoli gan brosiectau fel y rhain, lle mae trigolion wedi cymryd yr awenau ar ôl nodi angen yn eu cymuned, ac rydym am adeiladu ar hyn trwy rymuso a chefnogi mwy o bobl i wneud yr un peth.“

Defnyddir mwy na 250 o ymatebion i arolwg ar-lein diweddar a syniadau a barn gan staff y Cyngor a rhanddeiliaid allweddol hefyd wrth lunio’r Fargen.
Mae’r Cynulliad Dinasyddion yn cynnwys trigolion a ddewiswyd gan ac mae’r Cynulliad yn cael ei redeg gan , y partner cyflenwi sector cyhoeddus ar gyfer Llywodraeth Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol.
Mae Bargen °¬²æAƬ yn cyd-fynd ag ymrwymiad y Cyngor i fod y Cyd-Gyngor Marmot cyntaf yng Nghymru, ochr yn ochr â Chyngor Torfaen.
Ystyrir yr egwyddorion y cytunwyd arnynt ar gyfer y Fargen gan Bwyllgor Craffu Llywodraethu Corfforaethol ac Adnoddau’r Cyngor yn dilyn sesiwn olaf y Cynulliad.

