Wythnos nesaf yw Wythnos Hinsawdd Cymru 2025 ac mae Fforwm Dinasyddion ar Ddyfodol Teithio ym Mlaenau Gwent wedi llunio 10 argymhelliad ar ôl ystyried y cwestiwn Sut gall °¬²æAƬ ddod at ei gilydd i wneud teithio lleol yn decach, yn wyrddach ac yn well i bawb?
Gweithiodd Cyngor °¬²æAƬ gyda'r elusen cyfranogiad cyhoeddus, Involve, i gynnal Fforwm Dinasyddion a ddaeth â 19 o drigolion ynghyd - a ddewiswyd ar hap i fod yn gynrychioliadol o Flaenau Gwent - ar gyfer cyfres o weithdai i glywed tystiolaeth, trafod y materion a llunio deg argymhelliad ar ddyfodol teithio yn y fwrdeistref a'r cyffiniau.
Mae aelodau'r fforwm wedi cyflwyno eu hargymhellion, ac mae'r Cyngor bellach yn gweithio gydag ystod o bartneriaid i ystyried ac ymgorffori'r argymhellion hyn mewn cynlluniau gwasanaethau ar gyfer y dyfodol. Bydd adroddiad a chynllun gweithredu yn cael eu cyflwyno i'n Pwyllgor Craffu Datblygu Economaidd a Rheolaeth Amgylcheddol ym mis Rhagfyr, cyn mynd gerbron yr holl gynghorwyr i'w trafod yn y Flwyddyn Newydd.
Ariannwyd y Fforwm gan Innovate UK, asiantaeth arloesi Llywodraeth y DU.
Y 10 argymhelliad yw:
- Lleihau'r defnydd o geir ar gyfer cymudo
- Cael rampiau cadair olwyn ar drenau bob amser
- Cynnwys y cyhoedd yn well wrth gynllunio trafnidiaeth
- Ystyried trosglwyddo bysiau yn ôl i berchnogaeth gyhoeddus
- Gwella gwasanaethau tacsi
- Cynyddu cyhoeddusrwydd, capasiti a chyllid bysiau Fflecsi
- Hyrwyddo ac ehangu cynlluniau trafnidiaeth gymunedol
- Cynyddu opsiynau trafnidiaeth gyda'r nos
- Cynnig opsiynau gwell ar gyfer teithiau ysgol
- Annog pobl i gerdded, beicio neu olwyno
Meddai'r Cynghorydd Tommy Smith, Aelod Cabinet Cyngor °¬²æAƬ dros Wasanaethau Cymdogaeth a'r Amgylchedd:
"Mae blaenoriaethau ein Cynllun Corfforaethol yn cynnwys ymateb i'r argyfwng natur a hinsawdd, galluogi cymunedau cysylltiedig, annibynnol a gweithio gyda'n gilydd i leihau allyriadau carbon. Yn ogystal â hyn, fel Cyngor Marmot, rydym am greu a datblygu lleoedd a chymunedau cynaliadwy. Bydd angen i ni wneud hyn drwy weithio gydag ystod o bartneriaid, sefydliadau gwirfoddol a'n cymunedau.
"Hoffwn ddiolch i holl aelodau'r Fforwm Dinasyddion am roi o’u hamser i ymgysylltu â'r pwnc hwn. Mae'n hynod bwysig i ni ein bod yn ymgysylltu â phobl leol ac yn gwrando arnynt nhw am y pethau sydd wir yn bwysig iddyn nhw ac mae dod â phobl o bob cefndir at ei gilydd yn rhoi cipolwg da iawn i ni o sut mae pobl go iawn yn meddwl y gall teithio wella a deall unrhyw rwystrau i deithio cynaliadwy a theg. Mae'n amlwg bod angen i ddyfodol teithio gael ei siapio gan drigolion fel bod unrhyw gynnydd yn cefnogi anghenion y gymuned ac yn arwain at fanteision ehangach."
Gellir dod o hyd i adroddiad cryno i'r Fforwm a'u canfyddiadau yma.
Ar hyn o bryd mae Cyngor °¬²æAƬ yn ymgynghori ar ei Rwydwaith Teithio Llesol ac mae sawl gweithdy lleol yn cael eu cynnal yr wythnos nesaf.
- Llyfrgell Tredegar - 4 Tachwedd, 11am – 2pm
- Llyfrgell y Blaenau - 6 Tachwedd, 11am – 1pm
- Eglwys Ebeneser, Abertyleri - 13 Tachwedd, 11:30am - 2:30pm
- Canolfan Gweithredu Dysgu, Glynebwy - 18 Tachwedd - 11am – 2pm
- Canolfan Tabor, Brynmawr - 20 Tachwedd, 11am – 2pm
*Gweithiodd y Cyngor gyda Sortition Foundation i ddewis preswylwyr drwy loteri, mewn ffordd sy'n gynrychioliadol o boblogaeth ehangach °¬²æAƬ.
