°¬˛ćAƬ

Gwaith atal llifogydd yng nghymunedau °¬˛ćAƬ yn symud ymlaen yn dda

Mae gwaith wedi dechrau ar fesurau atal llifogydd yn Llanhiledd. Yn gynharach eleni, cymeradwyodd y Cyngor raglenni gwaith ar gyfer y cymunedau a gafodd eu taro waethaf gan ddigwyddiadau llifogydd diweddar yn Llanhiledd, Cwm a Thredegar.

Mae contractwyr wedi dechrau disodli'r rhan o gwlfer Nant Cyffin o ffin y rheilffordd i'r afon ac mae disgwyl i'r gwaith gymryd tua 18 wythnos i'w gwblhau. Yn ystod y cyfnod hwn, bydd gwyriad traffig ar waith, a bydd y ffordd ochr sy'n arwain at Stryd y Rheilffordd ar gau dros dro.

Yn y Cwm, mae'r gwaith yn mynd rhagddo'n dda. Disgwylir i'r gwaith ar y prif gwlfer orffen yng nghanol mis Mehefin yn Ă´l y disgwyl, a bydd contractwyr yn dechrau yng nghefn Stryd y Brenin yr wythnos nesaf.

Yng Nghwmtyleri, lleoliad y tirlithriad yn ystod Storm Bert, mae'r ymchwiliadau safle bellach wedi'u cwblhau, ac mae'r Cyngor yn y broses o ddatblygu rhaglen waith a fydd yn cael ei rhannu â thrigolion yr effeithir arnynt cyn bo hir.

Yn Nhredegar mae'r gwaith o osod gatiau llifogydd a chynnal a chadw coed wedi'i gwblhau, ac mae mesurau eraill yn parhau i geisio darparu amddiffyniad rhag llifogydd ac atal llifogydd rhag digwydd eto.

Meddai’r Cynghorydd Tommy Smith, yr Aelod Cabinet dros Gymdogaethau a'r Amgylchedd:

"Mae gwaith atal llifogydd a diogelwch tomenni yn y cymunedau hyn yn brif flaenoriaeth i ni. Mae llifogydd a digwyddiadau tywydd eithafol yn cael effaith ddinistriol ar gymunedau, ac rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i nodi problemau ac atal y tebygolrwydd o ddigwyddiadau yn y dyfodol gobeithio, yn ogystal â chefnogi cymunedau gyda gwytnwch a pharodrwydd lleol."