Mae Brynmawr bellach yn elwa o seilwaith Teithio Llesol gwell, diolch i lwybr troed a chroesfan twcan newydd a gynlluniwyd i wneud cerdded, beicio a theithiau ysgol yn fwy diogel ac yn fwy hygyrch. Y gobaith yw y bydd gwelliannau i'r rhwydwaith teithio llesol yn lleihau'r ddibyniaeth ar geir ac y bydd pobl yn dewis cerdded a beicio fel eu dull o deithio ar gyfer teithiau byr, pwrpasol.
Ymunodd y Cynghorydd Tommy Smith, Aelod Cabinet dros Gymdogaethau a'r Amgylchedd, ag aelodau ward lleol ar gyfer Brynmawr i ymweld â'r safleoedd sydd newydd eu cwblhau a gweld y gwelliannau drosto'i hun.
Mae llwybr troed newydd bellach yn cysylltu isffyrdd Brynmawr yn uniongyrchol â Llwybr 46 y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol. Wedi'i gynllunio gan y Cyngor a'i ariannu drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU, cyflawnwyd y prosiect gan y contractwr lleol Nigel Sullivans Groundworks & Plant Hire. Mae'r cysylltiad newydd hwn yn cael gwared ar yr angen am risiau a chroesfannau ffordd prysur, gan wneud y llwybr yn fwy cynhwysol i ddefnyddwyr cadair olwyn a theuluoedd â phramiau.
Yn ogystal, mae croesfan twcan newydd wedi'i gosod ar draws yr A467 ger Ffordd Daren Felin, wedi’i hariannu gan Gronfa Teithio Llesol Llywodraeth Cymru. Wedi'i chynllunio gan y Cyngor a'i hadeiladu gan Horan Construction Ltd, mae'r groesfan yn gwella diogelwch i gerddwyr a beicwyr. Fel rhan o'r cynllun, mae terfyn cyflymder y ffordd wedi'i leihau o 50mya i 40mya, ac mae'r ramp ar ochr ogleddol y ffordd gerbydau wedi'i ehangu i wella hygyrchedd.
Dywedodd y Cynghorydd Tommy Smith:
"Rydyn ni’n falch o fod wedi cyflawni'r gwelliannau hyn mewn partneriaeth â chontractwyr a chyllidwyr lleol. Mae'r llwybr troed a'r groesfan newydd yn gwneud Teithio Llesol yn fwy hygyrch ac yn fwy diogel i bawb ym Mrynmawr a'r ardaloedd cyfagos. Mae'r newidiadau hyn yn cefnogi ein hymrwymiad fel Cyngor Marmot i adeiladu cymunedau iachach, mwy cynaliadwy."
Yn gynharach eleni, ymrwymodd y Cyngor i bartneriaeth â'r elusen cyfranogiad cyhoeddus Involve i gynnal Fforwm Dinasyddion cyntaf °¬²æAƬ ar ddyfodol teithio lleol. Daeth ugain o drigolion a ddewiswyd ar hap at ei gilydd i archwilio sut y gellid gwneud teithio yn yr ardal yn decach, gwyrddach a mwy cynhwysol. Ymhlith eu prif argymhellion roedd opsiynau teithio ysgol gwell a mwy o gefnogaeth i gerdded, beicio ac olwyno.
Ychwanegodd y Cynghorydd Smith:
"Mae gwella teithio lleol yn gofyn am gydweithrediad â phartneriaid a chymunedau. Gwnaeth y Fforwm Dinasyddion hi’n glir fod llwybrau Teithio Llesol mwy diogel, mwy hygyrch yn flaenoriaeth - ac rydyn ni’n gwrando ac yn gweithredu ar yr adborth hwnnw."
I ddysgu mwy am Deithio Llesol ym Mlaenau Gwent ewch i: /cy/preswylwyr/priffyrdd/teithio-llesol-blaenau-gwent/