°¬²æAƬ

Llongyfarchiadau Gillian a Sonia

Mae ein cynorthwywyr arlwyo ysgolion annwyl, Gill a Sonia, sy’n 80 oed, wedi cael eu cydnabod yn genedlaethol am eu hymroddiad a'u gwasanaeth anhygoel!

Mae'n ymddangos nad ni yn unig sydd wedi sylweddol pa mor wych ydyn nhw – mae Gillian Morris a Sonia Blanchard nawr wedi ennill y Wobr Arwyr Tawel yng Ngwobrau Rhagoriaeth LACA 2025. Mae aelodau LACA wrth wraidd dosbarthu bwyd ysgol, yn cynrychioli dros 3,300 o wahanol sefydliadau ac unigolion, i gyd yn ymroddedig i sicrhau bod ein plant yn gallu manteisio ar ginio ysgol iach, maethlon.

Fe siaradon ni â Gillian a Sonia yn gynharach eleni wrth iddyn nhw ddathlu eu pen-blwyddi mawr ac nid oes gan y naill na'r llall unrhyw fwriad i gamu allan o’r gegin eto. Mae eu hymrwymiad, eu cynhesrwydd a'u hegni diflino wedi cael effaith barhaol ar genedlaethau o blant ym Mlaenau Gwent.

Llongyfarchiadau – haeddiannol iawn! A diolch unwaith eto am eich gwasanaeth a'ch ymroddiad i'n plant a'n pobl ifanc.