Mae Nick Smith, AS °¬²æAƬ a Rhymni, wedi ymweld â Chanolfan Ieuenctid Abertyleri i weld y gwahaniaeth cadarnhaol go iawn mae cyllid Llywodraeth y DU yn ei wneud i wasanaethau ieuenctid ym Mlaenau Gwent.
Cyfarfu Mr Smith â staff a phobl ifanc o'r Tîm Ysgolion 11 – 16, darpariaeth AHY (Addysg Heblaw yn yr Ysgol) yng Nghanolfan yr Afon, a'r rhaglen Dyfodol Cadarnhaol. Tynnodd y daith sylw at sut mae gweithwyr ieuenctid yn darparu cymorth cynnar, cymorth lles emosiynol, ac ymyrraeth dargedig sy'n helpu i leihau ymddieithriad, gwella presenoldeb, ac atal ymddygiadau sy’n peri risg.
Nod yr ymweliad â'r ganolfan ieuenctid sydd newydd ei hadnewyddu oedd dangos effaith gwaith ieuenctid a ddarperir ar draws ysgolion a chymunedau, gan gynnwys:
- Gwaith ieuenctid 11–16 mewn ysgolion, gan gynnwys cymorth un-i-un a grŵp i wella lles, presenoldeb ac ymddygiad
- Ymyriadau wedi'u teilwra ar gyfer pobl ifanc nad ydynt yn gallu mynychu ysgol brif ffrwd
- Rhaglenni mentora a gweithgareddau sy'n lleihau'r risg o allgáu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol
- Cymorth i ddysgwyr sydd mewn perygl o ddod yn NEET (Ddim mewn Addysg, Cyflogaeth na Hyfforddiant)
- Cymorth ymgysylltu a dilyniant i bobl ifanc sydd mewn perygl
Ar draws °¬²æAƬ, mae timau'r Gwasanaeth Ieuenctid yn cefnogi dros 10,700 o bobl ifanc. Mae cyfran sylweddol o'r gwaith ieuenctid presennol yn cael ei ariannu trwy Gronfa Ffyniant Gyffredin (CFfG) Llywodraeth y DU.
Dywedodd Nick Smith AS:
"Roedd yn wych clywed am yr effaith gadarnhaol y mae ein gwasanaethau ieuenctid yn ei chael ar les a hyder pobl ifanc. Mae'r timau ieuenctid ar draws °¬²æAƬ yn helpu i sicrhau bod mwy o bobl ifanc yn parhau i gymryd rhan mewn addysg, teimlo eu bod yn cael eu cefnogi, a chael cyfleoedd ar gyfer y dyfodol."
Dywedodd y Cynghorydd Sue Edmunds, Aelod Cabinet Cyngor °¬²æAƬ dros Blant, Pobl Ifanc a Theuluoedd:
"Roeddwn i’n falch iawn o groesawu Nick Smith AS i Abertyleri heddiw er mwyn iddo allu gweld a chlywed drosto'i hun am waith anhygoel ein gwasanaethau ieuenctid - allan yn y gymuned ac yn ein hysgolion - i helpu i gefnogi pobl ifanc i barhau i ymgysylltu a sicrhau nad oes unrhyw berson ifanc yn cael ei adael ar ôl.
"Nid yw gwaith ieuenctid yn ychwanegiad dewisol - mae'n rhan greiddiol o'n system addysg a lles. Mae'r gefnogaeth mae ein timau yn ei rhoi yn helpu pobl ifanc i barhau i ddysgu, adeiladu gwytnwch emosiynol ac osgoi argyfyngau."
Rhoddodd yr ymweliad gipolwg uniongyrchol i Mr Smith ar werth y gwasanaethau a'r rôl hanfodol y mae gweithwyr ieuenctid yn ei chwarae mewn atal, lles a diogelwch cymunedol.
