°¬²æAƬ

Gorchymyn Diogelu Mannau 2025

Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus - Rheoli Cŵn 2025

Mae Cyngor °¬²æAƬ yn cynnig adnewyddu a chyflwyno rhai rheolaethau newydd sy'n berthnasol i ymarfer cŵn a chlirio baw cŵn ar dir o fewn y fwrdeistref sirol ac mae'n croesawu sylwadau gan yr holl aelodau o'r cyhoedd sydd â diddordeb.

Beth sy’n digwydd ar hyn o bryd?

Ar 1 Tachwedd 2022 cyflwynodd CBS °¬²æAƬ orchymyn diogelu mannau agored cyhoeddus ar gyfer mesurau rheoli cŵn o fewn ei ardal a wnaeth greu ardaloedd eithrio cŵn, ardaloedd cŵn ar dennyn a’i gwneud yn drosedd i beidio symud baw ci unwaith mae ci wedi baeddu. Os yw perchnogion yn cyflawni trosedd ar hyn o bryd cânt gynnig hysbysiad cosb sefydlog o £100 yn lle erlyniad. Os nad ydynt yn derbyn neu ddim yn talu o fewn amser penodol, bydd hyn yn arwain at ymddangosiad llys.

Beth sy’n newid? 

Roedd y gorchymyn diogelu mannau cyhoeddus ar gyfer mesurau rheoli cŵn a gyflwynwyd gan CBS °¬²æAƬ yn 2022 am gyfnod o 3 blynedd ac mae i ddod i ben yn ddiweddarach eleni.

Mae CBS °¬²æAƬ yn cynnig cyflwyno gorchymyn newydd diogelu mannau agored cyhoeddus ar gyfer mesurau rheoli cŵn-

  1. Baeddu Tir gan Gŵn – bydd hyn yn gweithredu ar draws y fwrdeistref, lle bydd yn drosedd i beidio symud baw ci.
  2. Ardaloedd Eithrio Cŵn – bydd hyn yn weithredol ar gyfer ardaloedd penodol o dir a ddynodir gan gynlluniau lleoliad, lle bydd yn drosedd caniatáu ci i fynd i fewn i ardal a ddynodwyd fel ardal eithrio cŵn.
  3. Ardaloedd Ci ar Dennyn – bydd hyn yn weithredol i ardaloedd penodol o dir a ddynodir ar gynlluniau lleoliad, lle bydd yn drosedd i beidio cadw ci ar dennyn mewn ardal a ddynodwyd fel ardal cŵn ar dennyn.

Mae’r cynigion newydd ar gyfer safleoedd lle bydd ardaloedd eithrio cŵn neu gŵn ar dennyn i’w gweld yn y ddogfen gyfeirio a’r cynlluniau lleoliad a atodir.

Newidiadau amlwg o safleoedd presennol sydd yn ardaloedd eithrio cŵn neu gŵn ar dennyn-

Cynnig ardal newydd ar gyfer eithrio cŵn yn-

  • PSPO-DC-130- Ysgol Gynradd Chartist Way, Sirhywi, Tredegar. Mae ysgol gynradd newydd wedi'i hadeiladu y bwriedir iddi fod yn ardal gwahardd cŵn.
  • PSPO-DC-131- Ysgol Gynradd Glyncoed, Beaufort, Glynebwy. Mae ysgol gynradd newydd wedi'i hadeiladu y bwriedir iddi fod yn ardal gwahardd cŵn.  
  • PSPO-DC132- Ysgol Pen y Cwm, Uned 4 Llys Gwent, Glynebwy. Cynigiwyd ehangu cyfleusterau Pen y Cwm i fod yn ardal gwahardd cŵn.
  • PSPO-DC-133- Canolfan Ddysgu Abertyleri, Hen Ganolfan Gymunedol Cod Cae, Blaenau. Cynigiwyd ehangu Canolfan Ddysgu Abertyleri i fod yn ardal gwahardd cŵn.
  • PSPO-DC-134- Maes chwarae yn Chartist Way, Sirhywi, Tredegar. Cynigiwyd cyfleuster maes chwarae newydd i fod yn ardal gwahardd.

Safleoedd gwahardd arfaethedig i'w tynnu o'r gorchymyn presennol ac nad ydynt wedi'u cynnwys yng ngorchymyn newydd 2025-

  • PSPO-DC-010 – Maes chwarae yn Woodland Terrace, Abertyleri. Safle bellach ar gau
  • PSPO-DC-017 – Maes chwarae yn Stryd Vivian, Abertyleri. Safle bellach ar gau.
  • PSPO-DC-047 - Maes chwarae yn Attlee Road, Nant-y-glo. Safle bellach ar gau.
  • PSPO-DC-048 - Maes chwarae yng Nghroes y Garn, Nant-y-glo. Safle bellach ar gau.  
  • PSPO-DC-074 - Hen Ysgol Gynradd Glyncoed, Badminton Grove, Glynebwy. Safle bellach ar gau.  
  • PSPO-DC-085 - Ardal chwarae yn Darby Crescent, Hilltop, Glynebwy. Safle bellach ar gau.
  • PSPO-DC-101 Maes chwarae yn Chartist Way, Sirhywi, Tredegar. Safle bellach ar gau.

Pa dir a ddaw o fewn Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus?

Bydd agwedd baw cŵn gorchymyn diogelu mannau agored cyhoeddus yn weithredol ar gyfer y tir sydd ar agor i’r aer ac y mae gan y cyhoedd hawl neu ganiatâd i gael mynediad iddo o fewn ardal °¬²æAƬ.

Mae’r ardaloedd a gynigir ar gyfer eithrio cŵn a’r ardaloedd cŵn ar dennyn yn cyfeirio at ardaloedd penodol o dir a amlinellir gan y cynlluniau lleoliad a’r ddogfen cyfeirio isod.

Gellir hefyd weld y cynlluniau yn y swyddfa isod rhwng dydd Llun – Gwener rhwng 9am-5pm.

Y Tîm Gorfodi Rheng Flaen, CBS °¬²æAƬ, Swyddfeydd Cyffredinol, Heol Gwaith Dur, Glynebwy, NP23 6DN.

Beth yw’r gosb am fethu cydymffurfio gyda Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus?

Mae CBS °¬²æAƬ yn cynnig parhau i gynnig hysbysiad cosb sefydlog o £100 am droseddau a gynhwysir o fewn gorchmynion diogelu mannau cyhoeddus. Bydd methu’r hysbysiad cosb sefydlog yn arwain at i’r awdurdod gymryd camau gweithredu cyfreithiol a all arwain at uchafswm dirwy o lefel 3 ar y raddfa sylfaenol, sy’n £1.000 ar hyn o bryd.

Y broses ymgynghori 

Mae gan y cyngor ddyletswydd gyfreithiol i ymgynghori ar y gorchymyn diogelu mannau cyhoeddus a gynigir ar gyfer mesurau rheoli cŵn cyn iddynt gael eu cyflwyno. Bydd y cyfnod ymgynghori yn rhedeg o ddydd Mercher 3 Medi 2025 tan ddydd Mercher 17 Medi 2025. Yn dilyn y cyfnod ymgynghori, byddwn yn ystyried unrhyw sylwadau a wnaed cyn penderfynu p’un ai i wneud unrhyw newidiadau neu symud ymlaen i gadarnhau’r gorchymyn.

Sut mae rhoi sylwadau ar y cynigion?  

Os hoffech roi sylwadau ar y gorchmynion a gynigir ar gyfer diogelu mannau cyhoeddus ar gyfer mesurau rheoli cŵn, anfonwch e-bost neu ysgrifennu atom erbyn dydd Mercher 17 Medi 2025 yn defnyddio’r manylion cyswllt islaw.

E-bost: frontline@blaenau-gwent.gov.uk

Ysgrifennwch at: Tîm Gorfodi Rheng Flaen, Swyddfa Wastraff, Ystâd Ddiwydiannol Barleyfields, Nant-y-glo, °¬²æAƬ NP23 4YF.

Dogfennau Cysylltiedig