
Mae Inside Out Cymru a Dechrau’n Deg °¬²æAƬ yn falch o gynnig cipolwg ar ‘Meithrin Tadau’ - prosiect llesiant creadigol a gyflwynir ledled °¬²æAƬ mewn partneriaeth â’r cerddor Alex Lupo, yr awdur Leigh Manley a’r tîm Cefnogi Tadau. Ariennir y prosiect yn garedig gan raglen grantiau Dynion Creadigol y Baring Foundation.
Cafodd ein ffilm ei chyhoeddi ar ddiwrnod Rhyngwladol Dynion, ac mae’n tynnu sylw at sut mae cerddoriaeth wedi rhoi cyfle i ddynion lleol gysylltu, gwella hyder, a gwella llesiant, gyda llawer ohonynt yn cyrraedd yn teimlo’n unig, heb fawr o hyder, neu’n ansicr sut i ymgysylltu’n greadigol.
Gyda’r therapydd cerddoriaeth a cherddor proffesiynol Alex Lupo yn eu hwyluso, roedd y gweithdai’n croesawu tadau o bob gallu - o ddechreuwyr pur i gerddorion profiadol - i ystyried cyfansoddi caneuon, technoleg cerddoriaeth, ‘jamio’, byrfyfyrio a sesiynau gwrando. Roedd cerddoriaeth yn cynnig man dechrau hygyrch heb fawr o bwysau, gan alluogi tadau i greu gyda’i gilydd, rhannu profiadau, a meithrin cyfeillgarwch.
Dywedodd Lupo “Roeddwn i am annog golwg wahanol ar wrywdod�
ac mae ei ddull yn canolbwyntio ar greadigrwydd, cydweithio a bod yn agored yn emosiynol.
Roedd cyfranogwyr yn gweld newid cadarnhaol sylweddol:
â—�&²Ô²ú²õ±è;&²Ô²ú²õ±è;&²Ô²ú²õ±è;&²Ô²ú²õ±è;&²Ô²ú²õ±è;&²Ô²ú²õ±è; Dywedodd 67% eu bod yn teimlo’n fwy creadigol
â—�&²Ô²ú²õ±è;&²Ô²ú²õ±è;&²Ô²ú²õ±è;&²Ô²ú²õ±è;&²Ô²ú²õ±è;&²Ô²ú²õ±è; Dywedodd 100% eu bod yn teimlo’n well am eu rhwydwaith cefnogi
â—�&²Ô²ú²õ±è;&²Ô²ú²õ±è;&²Ô²ú²õ±è;&²Ô²ú²õ±è;&²Ô²ú²õ±è;&²Ô²ú²õ±è; Nododd nifer o dadau eu bod yn teimlo bod ganddynt fwy o allu i ymdopi â heriau gartref ar ôl cymryd rhan yn y sesiynau
Rhannodd un tad:
“Mae’r sesiynau hyn yn rhoi lleoliad gwahanol imi siarad, lle rwy’n teimlo bod eraill yn fy neall ac yn fy nghefnogi heb feirniadu.�
Dechreuodd cyfranogwr arall gyfrannu llinellau bas, recordio traciau haenog, ac ailgysylltu gan deimlo’n hyderus a gyda phwrpas.
Mae llwyddiant ‘Meithrin Tadau’ wedi’i wreiddio yn y bartneriaeth gadarn rhwng Inside Out Cymru, Dechrau’n Deg, a’r tîm Cefnogi Tadau - dull sy’n canolbwyntio ar gefnogaeth benodol, cysondeb a chyd-greu.
Mae tîm y prosiect bellach yn paratoi at Flwyddyn 2, gydag ymrwymiad cyffredin i gyfoethogi ymgysylltiad a pharhau i feithrin cefnogaeth ystyrlon a chynaliadwy i dadau ym mhob cwr o’r rhanbarth.
I gymryd rhan yn ein sesiynau, cysylltwch â:
Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd °¬²æAƬ, 01495 369 610
Am ragor o wybodaeth ynghylch y prosiect, cysylltwch â:
Becca May Collins, engage@inside-out-cymru.org
Dolen i’r fideo: