Cofrestru ar gyfer y gwasanaeth
Gallwch gofrestru ar gyfer ein Casgliad Gwastraff Cynhyrchion Hylendid Amsugnol wythnosol am ddim ar-lein.
- Mae casgliadau'n digwydd bob dydd Gwener ar draws y fwrdeistref
- Rhowch eich eitemau allan erbyn 7yb ar y diwrnod casglu
Beth sy'n digwydd ar ôl i chi gofrestru?
Unwaith i chi gofrestru:
- Byddwch yn cael sachau hylendid melyn
- Bydd ein criwiau yn dod â’r rhain i chi ar eich diwrnod casglu nesaf a drefnwyd
Angen mwy o sachau? Dim problem - gallwch ofyn am sachau hylendid melyn ychwanegol ar-lein.
Noder: Ni fydd ceisiadau a wneir ar ôl hanner dydd ar ddydd Iau yn cael eu prosesu mewn pryd ar gyfer casgliad dydd Gwener a byddant yn cael eu bwcio ar gyfer yr wythnos ganlynol.
Ble i adael eich eitemau
Rhowch eich sachau yn eich man casglu ailgylchu arferol.
Beth allwch chi ei roi yn eich sachau melyn
Gallwch ddefnyddio'r sachau ar gyfer:
- Cewynnau
- Padiau anymataliaeth
- Bagiau stoma
Yr hyn na allwch ei roi yn eich sachau melyn
Peidiwch â chynnwys:
- Gwastraff clinigol (megis rhwymynnau neu fenig)
- Gwastraff cyffredinol y cartref
- Bagiau neu diwbiau cathetr
Ni fydd eitemau fel y rhain yn cael eu casglu.
Pethau pwysig sydd angen i chi eu gwybod
- Rhaid i chi ddefnyddio'r sachau hylendid melyn a ddarperir - ni fydd bagiau eraill yn cael eu casglu
- Dim ond ar gyfer gwastraff hylendid y dylid defnyddio sachau
Os defnyddir sachau ar gyfer gwastraff cyffredinol:
- Ni fyddant yn cael eu casglu
- Efallai y bydd Warden Gwastraff yn ymweld
- Gallech golli’r gwasanaeth
Gwybodaeth ychwanegol
- Ar gyfer y cartref yn unig y mae'r gwasanaeth
- Gall gwarchodwyr plant cofrestredig ddefnyddio'r gwasanaeth, ond bydd ffioedd yn berthnasol
- Nid yw'r gwasanaeth ar gael i gartrefi gofal, cartrefi nyrsio nac ysbytai
Cyn i chi ddechrau
I gofrestru, byddwch angen:
- Eich enw defnyddiwr a'ch cyfrinair Fy Ngwasanaethau, neu
- I greu cyfrif os nad oes gennych un eisoes:
Angen help?
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am archebu offer neu finiau ailgylchu, anfonwch e-bost at ein tîm a byddwn yn hapus i helpu. info@blaenau-gwent.gov.uk