Gwasanaeth Casglu Gwastraff Swmpus
Trefnu casgliad
Mae trefnu casgliad gwastraff swmpus yn gyflym ac yn hawdd trwy’r porth cwsmeriaid Fy Ngwasanaethau.
- Gallwch dalu gyda cherdyn debyd neu gredyd
- Unwaith y bydd eich archeb wedi'i chadarnhau, byddwch yn derbyn derbynneb gyda'ch dyddiad casglu
Ble i adael eich eitemau
Gadewch eich eitemau yn eich man casglu ailgylchu arferol erbyn 7yb ar y diwrnod casgu.
Awgrym defnyddiol: Gwnewch yn siŵr bod eich eitemau'n hawdd eu cyrraedd ac yn gwbl weladwy.
Noder:
- Rhaid i eitemau fod yn y man casglu hwn neu ni fyddwn yn gallu eu casglu
- Ni allwn gynnig casgliadau â chymorth ar gyfer gwastraff swmpus
- Ar gyfer aelwydydd preswyl yn unig y mae'r gwasanaeth hwn
Yr hyn y gallwn ei gasglu
Byddwn yn casglu eitemau cartref mawr nad ydynt yn ffitio yn eich bin, fel:
- Rhewgistiau a rhewgell-rewgistiau
- Setiau teledu
- Matresi
- Cadeiriau
Faint mae'n ei gostio
|
Nifer yr eitemau |
Cost |
|
1 eitem |
£7.10 |
|
2 eitem |
£14.20 |
|
3 eitem |
£21.30 |
|
4 eitem |
£28.40 |
|
5 eitem |
£35.50 |
Mae rhai eitemau'n costio ychydig yn fwy:
- Rhewgist/Rhewgell-rewgistiau arddull Americanaidd: £28.40
- Rholyn o garped: £21.30
- Sied 6 x 4: £21.30
Fe welwch y pris llawn yn glir wrth archebu.
Yr hyn na allwn ei gasglu
Ni allwn gymryd:
- Gwastraff DIY neu adeiladu (fel rwbel, pridd, tywod, sment)
- Pren rhydd neu baent
Ni allwn gasglu o safleoedd busnes na masnach chwaith, gan gynnwys ysgolion.
Ffyrdd eraill o gael gwared ar eitemau
Os nad yw casglu yn addas i chi, gallwch wneud un o’r canlynol:
- Mynd ag eitemau i'ch canolfan ailgylchu leol:
- Cyfrannu eitemau mewn cyflwr da i Siop Ailddefnyddio The Den:
Ychydig o bethau i'w cadw mewn cof
- Ar ôl i chi archebu, ni fyddwch yn gallu gwneud newidiadau
- Dim ond yr eitemau rydych chi wedi dweud wrthym amdanynt y byddwn yn eu casglu
- Ni fydd unrhyw eitemau ychwanegol a adawyd allan yn cael eu cymryd
- Os bydd rhywbeth annisgwyl yn digwydd (fel tywydd gwael), byddwn yn cysylltu â chi ac yn anelu at gasglu cyn gynted â phosibl
Canslo ac ad-daliadau
- Canslwch cyn 3yp y diwrnod cyn casglu i dderbyn ad-daliad llawn
- Ni ellir ad-dalu cansladau ar ôl yr amser hwn
Hefyd, ni allwn roi ad-daliadau:
- Os nad yw eitemau wedi'u gadael yn y man casglu cywir
- Os nad yw eitemau'n ddiogel i'w casglu
- Os yw eitemau eisoes wedi'u symud
Yr hyn y bydd ei angen arnoch chi
- Mynediad i borth cwsmeriaid Fy Ngwasanaethau
- Cerdyn debyd neu gredyd
Bydd y system yn eich tywys drwy bopeth gam wrth gam.
Awgrym: Ni fydd y ffurflen yn gweithio yn Internet Explorer - defnyddiwch Chrome, Edge neu Safari.
Angen help?
Os oes rhywbeth wedi mynd o'i le neu os yw eich casgliad wedi'i fethu:
- Ychwanegwch nodyn at eich archeb drwy’r porth Fy Ngwasanaethau, neu
- Anfonwch e-bost atom yn info@blaenau-gwent.gov.uk