Prydau Ysgol am Ddim i Bawb
Mae gan bob disgybl ysgol gynradd o’r Dosbarth Derbyn lan (a phlant Meithrin llawn-amser) ym Mlaenau Gwent yn awr hawl i Bryd Ysgol am Ddim bob dydd.
Caiff hyn ei ariannu gan Lywodraeth Cymru mewn ymateb i’r pwysau costau byw cynyddol ar deuluoedd ac uchelgais i drin tlodi tanwydd a sicrhau nad oes unrhyw blentyn yn mynd yn newynnog yn yr ysgol. Mae hefyd fuddion ehangach i brydau ysgol am ddim, yn cynnwys hyrwyddo bwyta iach ar draws yr ysgol, cynyddu amrywiaeth y bwyd y gall dysgwyr ei fwyta, gwella sgiliau cymdeithasol adeg prydau bwyd, yn ogystal â gwella ymddygiad a chyrhaeddiad. Mae’r polisi yn rhan o’r Cytundeb Cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru.
Nid oes angen cofrestru. Y cyfan fydd angen i’ch plentyn ei wneud yw dweud os yw eisiau cinio ysgol pan fydd yn cofrestru ar ddechrau’r diwrnod ysgol.
Prydau ysgol am ddim i fwy o ddisgyblion ysgolion uwchradd o fis Medi 2026
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol °¬²æAƬ yn falch o hysbysu rhieni a gofalwyr am newid pwysig i gymhwystra ar gyfer prydau ysgol am ddim i ddisgyblion mewn ysgolion uwchradd.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi, o fis Medi 2026 ymlaen, y bydd disgyblion mewn ysgolion uwchradd o aelwydydd sy’n derbyn Credyd Cynhwysol yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim waeth beth fo incwm yr aelwyd. Bydd y newid yn berthnasol i ddechrau i ddisgyblion ym mlynyddoedd 7 ac 8.
Bydd ehangu’r cynllun hwn yn helpu mwy o deuluoedd i gael mynediad at brydau ysgol maethlon am ddim, gan gefnogi iechyd a lles plant a’u gallu i ddysgu.
Pryd alla i wneud cais?
Gellir gwneud ceisiadau am yr hawl newydd ym Mlaenau Gwent o’r dyddiad canlynol:
Dydd Mercher 2 Medi 2026
Cyfnod Allweddol 2- Cyfnod Allweddol 4:
Efallai y gall eich plentyn gael prydau ysgol am ddim os ydych yn derbyn unrhyw un o’r dilynol:
- Cymhorthdal Incwm
- Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm
- Lwfans Cyflogaeth a Cymorth yn gysylltiedig ag incwm
- Cymorth dan Ran VI Deddf Mewnfudo a Lloches 1999
- Elfen gwarant Credyd Pensiwn
-
Credyd Cynhwysol (cyn belled â bod incwm net blynyddol yr aelwyd yn llai na £7,400, heb gynnwys budd-daliadau)
Gallwch ddarllen mwy am brydau ysgol am ddim ar .
Sut i wneud cais
Os ydych chi'n meddwl y gallech fod â hawl i gael cinio ysgol am ddim i'ch plentyn, cwblhewch ffurflen gais ar-lein isod. Hyd yn oed os yw'ch plentyn eisoes yn derbyn prydau ysgol am ddim wrth gyflwyno Prydau Ysgol am Ddim Cyffredinol i Ysgolion Cynradd.
Beth sy’n digwydd nesaf
Byddwn yn ysgrifennu atoch ac yn gadael i’r ysgol wybod pan mae eich plentyn yn gymwys am brydau ysgol am ddim.
Gwybodaeth Cyswllt
Enw’r Tîm: Budd-daliadau
E-bost: benefits@blaenau-gwent.gov.uk neu ffôn 01495 311556
