
Mae Gwasanaeth Ieuenctid °¬²æAƬ wedi dathlu cyflawniadau pobl ifanc a staff mewn noson wobrwyo arbennig i nodi Wythnos Gwaith Ieuenctid 2026.
Nododd y noson yn Sefydliad Glowyr Llanhiledd y cyfraniad cadarnhaol y mae gwaith ieuenctid yn ei wneud i fywydau pobl ifanc a chymunedau ym Mlaenau Gwent.

Roedd hefyd yn gyfle i groesawu'n swyddogol y Maer Ieuenctid newydd Daniil Narusberg a'r Dirprwy Faer Ieuenctid Phoebe Paton, a siaradodd am ba mor bwysig yw'r rôl a beth yw eu blaenoriaethau ar gyfer y flwyddyn i ddod. Diolch i'r Maer Ieuenctid Ymadawol Ellie Colwell a'r Dirprwy Chase Campbell.
Roedd y noson yn cynnwys perfformiadau cerddorol gan bobl ifanc a thanlinellodd brosiectau gwasanaeth ieuenctid sydd wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol eleni.

Cyflwynwyd y gwobrau canlynol:
- Hyrwyddwr Cymunedol: Peyton Grace-Tibbs
- Seren y Dyfodol: Tegan Roberts
- Llais a Dylanwad: Abi Phillips
- Gwobr Arweinyddiaeth: Peyton Ayres
- Gwobr Gwydnwch: Kira Brooks
- Talent Greadigol: Kyle Bowen
- Gweithiwr Ieuenctid Rhagorol 2024/25: Lucy Hill
- Gweithiwr ieuenctid Rhagorol 2025/26: Matthew Griffiths
- Gweithiwr Ieuenctid Uwchlaw a Thu Hwnt: 2025/26: Josh Bowen
Roedd y Cynghorydd Sue Edmunds, Aelod Cabinet Plant, Pobl Ifanc a Theuluoedd, yn y seremoni wobrwyo. Dywedodd:
“Am noson wirioneddol galonogol, a ddathlodd ac a amlygodd bwysigrwydd a gwerth gwaith ieuenctid wrth gefnogi pobl ifanc yn ein bwrdeistref. Rydym wedi ymrwymo i gefnogi dysgu a llesiant ein pobl ifanc a’u helpu i fyw bywydau iach a gwybodus, ac mae ein Gwasanaeth Ieuenctid gwych yn chwarae rhan fawr yn hynny.
“Llongyfarchiadau a chroeso i’r Maer Ieuenctid a’r Dirprwy Faer Ieuenctid newydd, rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda chi drwy gydol eich blwyddyn faerol.â€
Dysgwch fwy am waith Gwasanaeth Ieuenctid BG trwy ddilyn eu cyfryngau cymdeithasol.
Am wybodaeth ar sut i gymryd rhan yn y Fforwm Ieuenctid cysylltwch â
